|


Yr ardal o’i Amgylch
Lleolir
Gwesty’r Worm’s Head mewn ardal o harddwch naturiol
dynodedig ym mhentref Rhosili.
Mae golygfa fendigedig dros eangder urddasol Bae
Rosili a’r Pen Pyrod enwog, sydd dan berchnogaeth Yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cynlluniwyd y gwesty fel ei bod yn manteisio’n
llwyr ar ei
leoliad ysblennydd ac mae golygfa dros y môr o bob un
ystafell wely. Mae
maes parcio dan berchnogaeth breifat gyferbyn â’r gwesty.
Mae Gwesty’r Worm’s Head yn le delfrydol i aros ar
gyfer teithio o gwmpas Penrhyn Gŵyr a Gorllewin Cymru, neu
aros ac ymlacio dros nos cyn dal fferi i Iwerddon o Abertawe,
Penfro neu Abergwaun .
Mae
Rhosili yn ganolfan sy’n adnabyddus am weithgareddau awyr
agored fel bordhwylio, pysgota, barcuta, dringo a cherdded,
ac mae gwarchodfa adar enwog ym Mhen Pyrod.
Bydd y rhai llai egnïol yn sicr o ddod o hyd llecyn tawel ar
Fae Rhosili, sy'n ymestyn am dair milltir islaw’r gwesty.
Hwyrach y dymunwch fynd am dro ar y clogwyni gerllaw a
mwynhau’r dirwedd odidog.
Atyniadau
Gower
Heritage Centre
- Lleolir y ganolfan ym mhentre’ Parkmill, 8 milltir i’r
gorllewin o Abertawe.
Canolbwynt y ganolfan
yw melin hanesyddol 800 oed a ddefnyddir at ŷd a llifio pren
ac a yrrir gan ddŵr. Mae yno hefyd weithdai crefft sy’n dod
â hen grefftau gwledig lleol yn fyw.
Yn ogystal, mae arddangosfeydd o hanes gwledig a
threftadaeth Gŵyr, amgueddfa amaethyddol, ystafelloedd te
mawr a'r gweithdy a’r theatr bypedau i blant.
Ffôn: 01792 371206
www.gowerheritagecentre.co.uk
The
Dylan Thomas Centre -
Lleolir Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe, yn ganolbwynt
astudiaethau a digwyddiadau a seilir ar Dylan Thomas.
Mae yno arddangosfa barhaol am Dylan Thomas a’i fywyd
yn ogystal â siop llawn llyfrau, posteri a phethau cofiadwy.
Mae’r ganolfan hefyd yn fan cynnal rhaglen lenyddiaeth Tŷ
Llên sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau llenyddol yn ystod y
flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Dylan Thomas a gynhelir yn
flynyddol ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Ffôn 01792 463980
www.dylanthomas.com
The
Chocolate Factory -
Dewch i ymweld â’r Ffatri Siocled.
Cynhelir teithiau cyson drwy’r flwyddyn.
Mae’r teithiau’n rhoi gwybodaeth diddorol am siocled
ac mae digon o gyfle i flasu ar y ffordd o gwmpas.
Edrychwch ar ein gwefan am ddyddiadau a gwybodaeth
bellach. Mae’n
hanfodol cadw lle ymlaen llaw i sicrhau mynediad.
Mae’n bosib bydd ymwelwyr sy heb gadw lle yn cael eu
gwrthod. Ffôn 01792 561617
www.thechocfactory.com
Gower
Sport Flying -
Ar ben y profiad cyffrous o wasgu mewn i awyren fach a chodi
o dir anwastad Comin Gŵyr ym Maes Awyr Abertawe, cewch
olygfeydd trem aderyn bendigedig o’r Penrhyn. Ymlaciwch a
chael eich tywys drwy’r awyr am antur 30 munud neu cymerwch
y llyw a hedfan yr awyren dros eich hunan (dan oruchwyliaeth
peilot trwyddedig wrth gwrs!). Ffôn: 01792 208933
www.swansea-sport-flying.co.uk
Gweithgareddau
Gower
Coast Adventure -
Beth am gymryd rhan mewn taith syfrdanol o gwmpas arfordir
Gŵyr gan gynnwys Pen Pyrod, Mwmblws, Port Einon a Bae Tri
Chlogwyn. Cewch weld
cyfoeth o fywyd gwyllt y môr gan gynnwys morloi yn chwarae
yn eu cynefin naturiol, clywed straeon hanes lleol rhyfeddol
ac edmygu’r golygfeydd a ysbrydolodd barddoniaeth enwocaf
Dylan Thomas. Hyn oll
ynghyd â’r wefr unigryw wrth i ni sgimio ar draws y dŵr
agored. Ffôn:
01792 540386
www.gowercoastadventures.co.uk
Perris
Wood Archery Centre -
Lleolir ym Mhenmaen ar benrhyn hardd y Gwŷr i'r Gorllewin o
Abertawe. Dysgwch
saethyddiaeth, sy’n sgil hynafol, dan hyfforddiant a
goruchwyliaeth un o’n hyfforddwyr trwyddedig yn yr unig
ganolfan o’r math yn Ne Cymru.
Mae’r ganolfan ar agor drwy’r flwyddyn gyda meysydd
tu fewn a’r tu allan. Ffôn 01792 371661
www.perriswoodarchery.co.uk
Euphoria
Sailing & Watersports For all -
Wedi ein lleoli ym Mhenrhyn Gŵyr ym Mae Oxwich a Marina
Abertawe, darparwn chwaraeon dŵr a chyrsiau CHI mewn sgïo ar
y dŵr, hwylio, teithiau cwch modur a brigdonni. Mae pecynnau
gwyliau gweithgareddau i deuluoedd a phecynnau corfforaethol
ar gael hefyd ynghyd â gwasanaeth cynhwysfawr llogi cychod
ac offer. Ffôn: 01792 2345012
www.watersports4all.com
Parc
Le Breos Riding Centre -
Saif mewn parc 70 cyfer ym Mhenmaen Gŵyr, oedd arfer bod yn
barc ceirw yn perthyn i ystâd William de Breos, Arglwydd
Normanaidd Gŵyr. Mae
gan ein tywyswyr gwobrwyed wybodaeth heb ei hail am y
llwybrau gorau a chyflwr yr ardal leol.
Byddan nhw hefyd yn rhannu eu gwybodaeth am y
diwylliant lleol, hanes a thraddodiadau â chi mewn awyrgylch
dymunol. Ffôn 01792
3771636
www.parc-le-breos.co.uk
|